Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 21 Ionawr 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:58 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) Jocelyn Davies Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Owen Evans, Cyfarwyddwr, Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru Phil Jones, Llywodraeth Cymru Dr Bret Pugh, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Fay Buckle (Clerc) Meriel Singleton (Ail Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Nododd y Cadeirydd, gan y byddant yn ethol Aelodau i fod ar bwyllgorau yn y Cyfarfod Llawn yn hwyrach heddiw, mae’n debygol mai dyma oedd cyfarfod olaf Jocelyn Davies.
2 Trefniadau Cyflenwi yn Absenoldeb Athrawon: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru; Dr Bret Pugh, Cyfarwyddwr Grŵp, y Grŵp Safonau Ysgolion a'r Gweithlu a Phil Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Safonau Ymarferwyr a Datblygiad Proffesiynol o ran Cyflenwi yn Absenoldeb Athrawon.
2.2 Cytunodd Owen Evans i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor ar nifer o faterion a godwyd yn ystod y sesiwn.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Trefniadau Cyflenwi yn Absenoldeb Athrawon: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ystyried y dystiolaeth bellach y gofynnwyd amdani gan Lywodraeth Cymru a phenderfynu wedyn ynghylch a oes angen gwneud gwaith pellach cyn bod modd paratoi'r adroddiad.
5 Gwasanaethau awyr o fewn Cymru, rhwng Caerdydd ac Ynys Môn: Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio lafar gan Swyddfa Archwilio Cymru ar y gwasanaethau awyr o fewn Cymru - rhwng Caerdydd ac Ynys Môn - a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr i'r mater hwn yn nes ymlaen yn y tymor.